Presbyteriaeth

Symbol yr Eglwys Bresbyteraidd yn Iwerddon.[1] Symbol cyffredin mewn eglwysi Presbyteraidd yw'r perth yn llosgi.

Cangen o Brotestaniaeth Diwygiedig yw Presbyteriaeth (benthyciad Saesneg o'r Hen Roeg πρεσβύτερος "henadur" trwy Ladin) â'i gwreiddiau yn Ynysoedd Prydain. Daw'r enw Presbyteraidd o ffurf bresbyteraidd ar lywodraeth eglwysig, sef bod eglwysi'n cael eu llywodraethu gan gynulliadau o flaenoriaid sy'n cynrychioli'r aelodau. Trefnir llawer o eglwysi diwygiedig fel hyn, ond mae'r gair "Presbyteraidd" â blaenlythren yn cyfeirio'n amlach at yr eglwysi â'i gwreiddiau yn eglwysi'r Alban a Lloegr a oedd yn defnyddio'r enw ac yn y grwpiau gwleidyddol a ffurfiodd yn Rhyfel Cartref Lloegr.[2]

Mae diwinyddiaeth Bresbyteraidd yn tueddu i bwysleisio sofraniaeth Duw, awdurdod yr Ysgrythurau ac anghenraid gras trwy ffydd yng Nghrist. Sicrhawyd llwyodraeth eglwysig Bresbyteraidd yn yr Alban gan Ddeddfau Uno 1707[3] a greodd Deyrnas Prydain Fawr. Mewn gwirionedd, gall y rhan fwyaf o Bresbyteriaid yn Lloegr olrhain cyswllt â'r Alban, ac fe aethpwyd â'r enwad i Ogledd America hefyd gan fewnfudwyr o'r Alban a Gogledd Iwerddon. Mae enwadau Presbyteraidd yr Alban yn glynu at ddiwinyddiaeth Jean Calvin a'i olynwyr uniongyrchol, er bod ystod barn ddiwinyddol o fewn Presbyteriaeth heddiw.

Caiff cynulleidfaoedd lleol o dan lywodraeth bresbyteraidd eu rheoli gan sesiynau o gynrychiolwyr o'r gynulleidfa, sef y blaenoriaid. Defnyddir y dull ymgynghorol hwn wrth wneud penderfyniadau ar lefelau eraill hefyd: yn yr henaduriaeth, y synod a'r gymanfa gyffredinol.

Mae gwreiddiau Presbyteriaeth yn Niwygiad Protestannaidd y 16g, a dylanwad Genefa Jean Calvin yn arbennig o gryf. Mae'r mwyafrif o eglwysi Diwygiedig sy'n olrhain eu hanes yn ôl at yr Alban naill ai'n Bresbyteriaid neu'n Annibynwyr yn eu llwyodraeth. Yn yr 20g, chwaraeodd rhai Presbyteriaid rôl blaengar yn y Mudiad Eciwmenaidd, gan gynnwys yng Nghyngor Eglwysi'r Byd. Mae llawer o enwadau Presbyteraidd wedi canfod ffyrdd o gydweithio ag enwadau Diwygiedig eraill ac â Christnogion o draddodiadau eraill, yn enwedig yng Nghymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd. Mae rhai eglwysi Presbyteraidd wedi uno ag eglwysi eraill, fel Annibynwyr, Lwtheriaid, Anglicaniaid a Methodistiaid.

  1. "Presbyterian Church in Ireland". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-06-18. Cyrchwyd 2014-08-14.
  2. Benedict, Philip (2002). Christ's Churches Purely Reformed: A Social History of Calvinism. New Haven: Yale University Press. t. xiv. ISBN 978-0300105070.
  3. "Protestant Religion and Presbyterian Church Act 1707". The National Archives. United Kingdom. Cyrchwyd 19 October 2011.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy